Isaiah 56

Pobl o bob gwlad yn perthyn i Dduw

1Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg!
Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.
2Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn,
a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth.
Y rhai sy'n cadw'r saboth, heb ei wneud yn aflan,
ac yn stopio ei hunain rhag gwneud drwg.
3Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r Arglwydd ddim dweud:
‘Mae'r Arglwydd yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl’.
A ddylai'r eunuch
56:3 eunuch dyn wedi ei ysbaddu (ei bidyn wedi ei dorri i ffwrdd), oedd yn gweithio fel swyddog neu ystafellydd ym mhalas y brenin.
ddim dweud,
‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’
4Achos dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:
I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau
– sy'n dewis gwneud beth dw i eisiau
ac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
5dw i'n mynd i godi cofeb
yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau;
rhywbeth gwell na meibion a merched!
a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.
6Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo
i wasanaethu'r Arglwydd, ei garu,
a dod yn weision iddo –
pawb sy'n cadw'r saboth heb ei wneud yn aflan,
ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
7Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig
56:7 mynydd cysegredig gw. 2:3

i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi.
Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi
ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i;
achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw
yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”

8Dyma mae'r Meistr, yr Arglwydd, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd:

“Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi eu casglu.”

Duw yn addo cosbi arweinwyr drwg y wlad

9“Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwylltion!
Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!
10Mae'r gwylwyr
56:10 gwylwyr cyfeiriad at yr offeiriaid a'r proffwydi, sef yr arweinwyr ysbrydol, mae'n debyg
i gyd yn ddall, ac yn deall dim.
Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth –
yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.
11Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus
sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon;
bugeiliaid sy'n deall dim!
Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun,
ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.
12‘Dewch, dw i am nôl gwin!
Gadewch i ni feddwi ar gwrw!
Cawn wneud yr un fath yfory –
bydd hyd yn oed yn well!’
Copyright information for CYM